Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2021
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Graeme Francis - Clerc y Pwyllgor
Kayleigh Imperato – Dipwrwy Glerc
0300 200 656373
Deisebau@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
(Tudalennau 1 - 38)
2 Deisebau newydd Covid-19
2.1 P-05-1050 Ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal pleidlais i gymeradwyo cyfyngiadau lleol cyn eu gweithredu
(Tudalennau 39 - 45)
2.2 P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19
(Tudalennau 46 - 53)
2.3 P-05-1075 Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu – fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd – ar ôl y cyfnod atal byr
(Tudalennau 54 - 57)
2.4 P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!
(Tudalennau 58 - 64)
Deisebau Newydd Eraill
2.5 P-05-1080 Cyflwyno deunyddiau dysgu gwrth-hiliaeth i blant mewn ysgolion yng Nghymru i leihau troseddau casineb
(Tudalennau 65 - 74)
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd
2.6 P-05-1084 Dysgwch blant Cymru am sut y gwnaeth Cymru wladychu Patagonia
(Tudalennau 75 - 83)
2.7 P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion
(Tudalennau 84 - 92)
2.8 P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
(Tudalennau 93 - 98)
2.9 P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol
(Tudalennau 99 - 108)
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
Addysg
3.1 P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY
(Tudalennau 109 - 112)
3.2 P-05-972 Dylid darparu o leiaf bedair awr y dydd o addysg fyw i bob disgybl tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19
(Tudalen 113)
3.3 P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr
(Tudalennau 114 - 126)
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
3.4 P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau
(Tudalennau 127 - 129)
3.5 P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu
(Tudalennau 130 - 136)
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
3.6 P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog
(Tudalennau 137 - 140)
3.7 P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth
(Tudalennau 141 - 142)
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
3.8 P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru
(Tudalennau 143 - 146)
3.9 P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i’r gemau
(Tudalennau 147 - 151)
3.10 P-05-1037 Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon
(Tudalennau 152 - 155)
Covid 19 - Diweddariadau i ddeisebau
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd
3.11 P-05-1099 Peidiwch â chau’r Sector Lletygarwch (Tafarndai, Bwytai, Caffis) heb ddangos tystiolaeth wyddonol
(Tudalennau 156 - 162)
3.12 P-05-1100 Caniatáu i dafarndai a bwytai yng Nghymru weini alcohol / aros ar agor ar ôl 6pm
(Tudalennau 163 - 165)
3.13 P-05-1036 Caniatáu swigod cefnogaeth yn ystod y cyfyngiadau symud
(Tudalen 166)
Deisebau heb unrhyw gyswllt diweddar gan y deisebydd
3.14 P-05-826 Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!
(Tudalennau 167 - 168)
3.15 P-05-947 Dylai llythyrau meddygon teulu fod am ddim i fyfyrwyr
(Tudalen 169)